Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft

Draft Autism (Wales) Bill

Llythyr Ymgynghori DAB43

Consultation Letter DAB43

Ymateb gan xxx

Evidence from Monmouthshire County Council

Cyfeiriwch at y cwestiynau yn y Llythyr Ymgynghori.

Cwestiwn

Ymateb

01

Rydym yn cytuno y dylai diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistig ymddangos ar wyneb y Bil

02

Rydym yn bryderus y gallai cynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol wanhau'r ffocws ar ASD.

Fodd bynnag, sylweddolwn y gall pobl gydag ASD fod â chydafiachedd atodol sy'n aml yn niwroddatblygiadol ei natur. Mae angen proffil, cefnogaeth briodol ac adnoddau ar gyfer yr anhwylderau hyn (byddem yn dymuno cynnwys cyflwr Tourette o fewn hyn).

03

Teimlwn y cafodd y cyrff perthnasol eu cynnwys.

Mae angen i'r holl gyrff sy'n effeithio ar fywydau pobl gyda ASD gydweithio gyda ffocws ar yr unigolyn. Caiff y ffordd yma o weithio ei ddangos gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae angen i ni nodi rolau ac ystyried os y gellid defnyddio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus unigol i ddal asiantaethau i gyfrif ar lefel leol.

04

Byddem yn rhagweld ac yn disgwyl y byddai cyrff perthnasol yn barod iawn i gydweithio i gyflwyno'r strategaeth awtistiaeth; dylid caniatau iddynt gyflwyno'r strategaeth yn ôl eu hanghenion. Rôl Gweinidogion Cymru fyddai darparu craffu a gweithredu ar anghysondebau fel sydd angen. I sicrhau cysondeb ac eglurdeb ar draws Cymru credwn y dylai Gweinidogion Cymru gael grym cyfarwyddo i'w ddefnyddio os yw popeth arall wedi methu.

05

Rydym yn cefnogi'r amserlenni a nodir uchod ond yn cydnabod y bydd yn her i'w cyflawni.

06

Rydym yn cefnogi'r amserlenni a nodir uchod ond yn cydnabod y bydd yn her i'w cyflawni.

07

Rydym yn cefnogi'r amserlenni a nodir uchod ond yn cydnabod y bydd yn her i'w cyflawni.

08

Deallwn y gall y cyfnod yn arwain at ddiagnosis fod yn neilltuol o anodd ar gyfer unigolion a'u teuluoedd. Mae mynediad i ddiagnosis amserol yn garreg filltir a bydd gosod disgwyliadau clir drwy gadw amserlenni at ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn gymorth.

09

Rydym yn glir, ar ôl diagnosis, fod pobl angen mynediad i gymorth gynnar a byddai'n ddefnyddiol cael amseriad erbyn pryd y gellid disgwyl hynny. Byddem yn dymuno deall yn llawnach beth yw ystyr 'asesiad o anghenion gofal a chymorth' ac os yw hyn yn rhagweld asesiad gofal cymdeithasol ffurfiol ar gyfer pawb neu os y gellir dehongli hyn yn fwy eang i olygu cymorth i gael mynediad i ystod eang o fathau o gymorth a gyflwynir drwy nifer o asiantaethau.

Byddem yn bryderus os mai'r disgwyliad yw fod pawb yn derbyn asesiad ffurfiol gwaith cymdeithasol ar eu hanghenion gofal a chymorth ar ddiagnosis, p'un ai oes angen hynny neu os byddai'n fuddiol; dylid cadw mewn cof anghenion a dymuniadau'r person a gaiff ei asesu. Gallai hyn o bosibl atgyfnerthu canfyddiad negyddol, gyda ffocws ar anabledd o ASD ac mae'n debygol o greu galw sylweddol ar wasanaeth gofal cymdiethasol yn hytach na chefnogi cysyniad llesiant ac annibyniaeth.

10

Teimlwn ei bod yn ddefnyddiol cynnwys y rhestr o weithwyr proffesiynol a fyddai'n ffurfio rhan o'r tîm aml-ddisgyblaeth gyda'r amod na fyddai hyn yn golygu fod angen cynnwys y gweithwyr proffesiynol ar y rhestr bob tro y cynhelir asesiad diagnostig. Yn yr un modd, ni ddylai atal cynnwys arbenigwyr eraill pe byddai hynny'n fuddiol.

11

Byddem hefyd yn gofyn am ychwanegu Swyddog Addysg at y rhestr.

12

Ni wyddom am unrhyw amgylchiadau neu ffactorau ychwanegol.

13

Yng nghyswllt y data, credwn mai'r nodwedd bwysicaf yw set data cyffredin i alluogi casglu'r un data ar draws asiantaethau. Teimlwn ei bod yn hanfodol o'r cychwyn cyntaf i lunio llinell sylfaen gyffredin.

14

Nid oes gennym unrhyw sylwadau penodol ar y mathau o ddata a gaiff ei gasglu.

15

Byddai'n ymddangos yn fwy priodol i nodi mathau o ddata mewn canllawiau.

16

Nid oes gennym unrhyw sylwadau ar y mater yma.

17

Teimlwn fod angen ymwybyddiaeth gyson yn hytrach na chylchol o anghenion pobl gyda ASD. Teimlwn y dylid targedu ymdrechion ymwybyddiaeth at deuluoedd, unigolion a gweithwyr proffesiynol. Dylid tanlinellu pwysigrwydd hyrwyddo ymwybyddiaeth awtistiaeth mewn ysgolion.

Byddem hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd hyfforddi staff sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd o asesiad a chefnogaeth pobl gydag ASD.

18

I fod yn effeithlon, credwn yn gryf y bydd angen i'r Strategaeth Awtistiaeth gael yr adnoddau priodol i weithredu ei fwriad a hefyd ei ddarpariaethau penodol.

Mae'n rhaid i wasanaethau diagnostig a chymorth fod ar gael drwy gyfrfwng y Gymraeg.

19

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ystyried cynnwys y drafft Fil ar draws nifer o'i fforymau - ei Bwyllgorau Ethol Plant a Phobl Ifanc ac Oedolion, Tîm Rheoli Adrannol Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gyda'i Aelod Cabinet am Ofal Cymdeithasol Oedolion.

Er bod y rhan fwyaf yn cefnogi'r Bil Awtistiaeth, ei nodau a'i gyfeiriad eang, bu hefyd gydnaybddiaeth o effeithlonrwydd y trefniadau presennol a gefnogir gan gynllun gwethredu strategol diwygiedig ac addewid canllawiau. Tynnwyd sylw at y gwaith a wneir yn rhanbarthol ac yn lleol ac yn neilltuol, botensial y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a lansiwyd yn ddiweddar.

Gallai'r cynigion yn y drafft Fil gefnogi'r arferion effeithlon hyn ond bydd angen cynnal adolygiad rheolaeth fod adnoddau digonol yn cael eu darparu.